Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Ionawr 2020
Amser:
09.02 -
10.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5986
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Mark Reckless AC David Melding AC (yn lle Nick Ramsay AC) Siân Gwenllian AC (yn lle Rhun ap Iorwerth AC) |
Tystion: |
Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Samantha Williams (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i'r cyfarfod, gan gynnwys Siân Gwenllian AC fel Aelod newydd o'r Pwyllgor Cyllid.
1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad at y Pwyllgor.
1.3 Roedd David Melding AC yn bresennol ar ran Nick Ramsay AC.
2.1 Nodwyd y cofnodion a'r papur.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid ac Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, o ran y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chytuno ar ei restr o dystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar.
7.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr ymchwiliad a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gyda'i ganfyddiadau.